P'le mae'r hen awelon hyfryd?

(Hiraeth am yr hen brofiadau)
P'le mae'r hen awelon hyfryd
  Deimlais gynt wrth daro i maes?
P'le mae'r hen brofiadau melus
  Gefais gynt wrth orsedd gras?
P'le mae'r sêl a'r cariad cyntaf?
  P'le mae'r mawl a
      dyblu'r gân?
P'le mae'r sŵn seraphaidd nefol,
  Oedd yn denu 'mryd yn lân?

O! fy Nuw, a'm tirion Arglwydd!
  Rho'r cawodydd pur i lawr,
I ireiddio f'eiddil ysbryd,
 Sydd yn sychlyd iawn yn awr:
Dyro'r dylanwadau nefol,
  Enyn bob rhyw ddwyfol ddawn;
Rho dy gariad a'th ymgeledd,
  Difa'r llygredd
      sy' ynwy'n llawn.
William Williams 1717-91

Tôn [8787D]: Prydain (<1890)

gwelir:
  O fy Nuw a'm tirion Arglwydd
  Tyred Ysbryd santeiddiolaf

(Longing for the old experiences)
Where are the lovely old breezes
  I once felt while striking forth?
Where are the old sweet experiences
  I once had at the throne of grace?
Where is the zeal and the first love?
  Where is the praise and
      repeating the song?
Where is the heavenly, seraphic sound,
    That was attracting my attention up?

O my God, and my tender Lord!
  Send down the pure showers,
To anoint my feeble spirit,
  Which is very thirsty now:
Grant thy heavenly heavenly influences,
  Kindle every kind of divine gift;
Give thy love and thy help,
  Destroy the corruption
      that is fully in me.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~